Darllenwch y Telerau ac Amodau sy’n berthnasol i’r taliad cyn derbyn a pharhau gyda’ch taliad.

Wrth gofrestru disgybl ar gyfer gweithgaredd rydych chi’n derbyn y telerau ac amodau perthnasol ar gyfer y math hwnnw o wasanaeth.

  1. Mae hysbysiad preifatrwydd GDPR Addysg Gerdd Caerdydd a’r Fro yn nodi’r math o ddata personol rydym yn ei gasglu gennych er mwyn darparu ein gwasanaethau, yr hyn a wnawn gyda’r data hwn, a ydym yn ei rannu a pha mor hir y byddwn yn ei gadw.  Gallwch weld ein hysbysiad preifatrwydd.
  2. Mae Addysg Gerdd Caerdydd a’r Fro yn gweithredu fel rhan o Gyngor Dinas Caerdydd a gallwch ddarllen polisi GDPR y Cyngor ar ei wefan.
  3. Os ydych yn nodi cymhwysedd plentyn am Brydau Ysgol am Ddim er mwyn cael bwrsariaeth, cyllid ar gyfer hyfforddiant neu aelodaeth o ganolfan gerddoriaeth, rydych yn cytuno i ni gael mynediad at gronfa ddata briodol yr awdurdod lleol i ddilysu ei gymhwysedd.

Gwersi Cerdd

  • Mae gwersi fel arfer yn digwydd yn yr ysgol, gyda chaniatâd yr ysgol.  Gwneir eithriadau i hyn yn ôl disgresiwn Addysg Gerdd Caerdydd a’r Fro.
  • Mae gwersi yn yr ysgol yn amodol ar gytundeb gan yr ysgol i wersi ddigwydd ar dir yr ysgol ac yn ystod amser ysgol.
  • Cynhelir gwersi yn yr ysgol ar yr amser a’r diwrnod o’r wythnos y cytunwyd arnynt rhwng y tiwtor cerdd a’r ysgol.
  • Mae taliad am hyfforddiant yn ddyledus cyn dechrau’r gwersi.  Gallwch ddewis talu’n llawn am y flwyddyn academaidd, bob tymor neu’n fisol dros 10 mis.
  • Gallai disgyblion sy’n derbyn cymorth Prydau Ysgol am Ddim dderbyn cymhorthdal a ddarperir gan yr ysgol, yn amodol ar gadarnhad ysgol. Nodwch, wrth wneud cais, os ydych yn credu bod eich plentyn/plant yn gymwys.
  • Pan fyddwch yn cofrestru disgybl ar gyfer hyfforddiant, bydd ei enw yn cael ei roi ar restr aros y tiwtor.  Efallai na fydd yn bosibl dechrau hyfforddiant ar unwaith.  Os bydd amser y tiwtor yn yr ysgol yn llawn, gallwch ddewis aros i le ddod ar gael.
  • Mae talu am hyfforddiant yn prynu 34 o wersi a gynhelir dros y flwyddyn ysgol (rhwng mis Medi a mis Gorffennaf).  Mae nifer y gwersi a gyflwynir ym mhob tymor yn amrywio yn amodol ar hyd y tymor a dyddiadau’r ysgol a gwyliau banc.
  • Mae hyfforddiant grŵp yn dibynnu ar o leiaf 2 ddisgybl yn cofrestru ac argaeledd disgyblion o safon debyg er mwyn ffurfio grwpiau hyfforddiant.  Lle nad yw hyn yn bosibl, efallai y bydd ond yn bosibl cynnig hyfforddiant unigol neu hyfforddiant ar offeryn amgen ar gyfer dechreuwyr.
  • Ni ellir ad-dalu gwersi oherwydd nad yw’r disgybl neu’r ysgol ar gael (e.e., absenoldeb y disgybl neu’r ysgol yn cau oherwydd diwrnodau hyfforddiant staff, gweithredu diwydiannol, neu eira, ac ati).
  • Lle bo rhybudd o 7 diwrnod fan leiaf o gau’r ysgol wedi cael ei roi ymlaen llaw, bydd y tiwtor yn ceisio trefnu sesiynau dal i fyny lle mae digon o wythnosau yn y tymor.

Canslo hyfforddiant

  • I ganslo hyfforddiant, rhaid i chi glicio’r botwm gwneud cais am dynnu’n ôl yn y porth, neu mewn amgylchiadau eithriadol byddwn yn derbyn hysbysiad e-bost trwy AddysgGerddCF@caerdydd.gov.uk
  • Ni fyddwn yn derbyn neges a anfonwyd at y tiwtor fel cais swyddogol am ganslo.
  • Bydd taliad yn ddyledus am y mis y caiff ei ganslo. Bydd ad-daliadau ond yn daladwy os yw gwersi wedi’u colli oherwydd absenoldeb athrawon.
  • Gellir terfynu hyfforddiant ar ddiwedd bob hanner tymor.  Mae angen rhoi rhybudd o ganslo gwersi cyn y dyddiadau canlynol ar gyfer blwyddyn academaidd 2024-25:
  • Tymor yr hydref: Tynnu’n ôl erbyn 6 HYDREF i orffen hanner tymor Hydref; Tynnu’n ôl erbyn 8 RHAGFYR i orffen ar ddechrau’r gwyliau Nadolig.
  • Tymor y gwanwyn: Tynnu’n ôl erbyn 2 CHWEFROR i orffen hanner tymor Chwefror; Tynnu’n ôl erbyn 30 MAWRTH i orffen ar ddechrau gwyliau’r Pasg.
  • Tymor yr haf: Erbyn 4 MAI i orffen yn ystod hanner tymor mis Mai; Erbyn 30 AWST i orffen cyn y flwyddyn academaidd newydd.
  • Os caiff ei ganslo ar ôl y dyddiad a nodwyd, bydd ffi yr hanner tymor nesaf yn daladwy.

Ensembles a grwpiau

  • Rhaid talu am sesiynau’r tymor ymlaen llaw yn llawn, neu drwy ddewis 10 rhandaliad misol. 
  • Os yw’ch plentyn yn dechrau ensemble yn hwyr yn y tymor, mae’r taliad llawn yn ddyledus o hyd.  Ni ellir ad-dalu taliadau.
  • Rhoddir aelodaeth Ensembles Ieuenctid ar y dybiaeth bod aelodaeth ar gyfer y flwyddyn academaidd gyfan, ac mae’r ffioedd yn seiliedig ar y ffi aelodaeth flynyddol. Ni fydd myfyrwyr yn gallu optio allan o aelodaeth yn ystod un tymor, ac yna dychwelyd heb orfod cael clyweliad arall, a gall olygu ildio eu lle.
  • Ni fydd ad-daliadau yn cael eu gwneud ar gyfer sesiynau a gollwyd.

Canslo aelodaeth ensemble

  • I ganslo aelodaeth ensemble, rhaid i chi glicio’r botwm i dynnu’n ôl o hyfforddiant yn y porth, neu mewn amgylchiadau eithriadol byddwn yn derbyn hysbysiad e-bost trwy AddysgGerddCF@caerdydd.gov.uk
  • Ni fyddwn yn derbyn neges a anfonwyd at y tiwtor fel cais swyddogol am ganslo.
  • Gellir terfynu aelodaeth ensemble ar ddiwedd bob tymor llawn. Mae angen rhoi rhybudd o ganslo aelodaeth cyn y dyddiadau canlynol ar gyfer blwyddyn academaidd 2024-25:
  • Tymor yr hydref: Erbyn 8 RHAGFYR i orffen ar ddechrau’r gwyliau Nadolig.
  • Tymor y gwanwyn: Erbyn 30 MAWRTH i orffen ar ddechrau gwyliau’r Pasg.
  • Tymor yr haf: Erbyn 30 AWST i orffen ar ddechrau’r flwyddyn academaidd newydd.
  • Os rhoddir hysbysiad canslo ar ôl y dyddiad a nodwyd ar gyfer y tymor hwnnw, bydd ffi’r tymor llawn nesaf yn daladwy.

Cyrsiau Preswyl, Digwyddiadau, Tripiau a Theithiau 

  • Ni ellir ad-dalu taliadau unwaith y bydd y lle wedi’i gadarnhau.
  • Ar gyfer cyrsiau a theithiau lle cynigir cynllun rhandaliadau, unwaith y bydd y myfyriwr wedi’i gofrestru a thalu’r rhandaliad cyntaf, mae’r holl randaliadau dilynol yn daladwy ar y dyddiadau dyledus fel a nodwyd yn y wybodaeth gofrestru.
  • Argymhellir bod yswiriant canslo addas ar waith rhag ofn na fydd y disgybl yn gallu teithio oherwydd salwch, profedigaeth ac ati.
  • Os na thelir y balans llawn erbyn y dyddiadau cau a bennwyd:
  • Bydd eich plentyn yn colli ei le ar y cwrs ac ni roddir ad-daliad.
  • Bydd eich tocyn ar gyfer y digwyddiad, lle bo’n berthnasol, yn annilys ac ni roddir ad-daliad. 
  • Byddwch yn colli’ch lle ar y drafnidiaeth ac ni roddir ad-daliad.
  • Rhaid i unrhyw randaliadau heb eu talu gael eu talu’n llawn.
  • Ni ellir ad-dalu blaendaliadau.
  • Efallai y bydd gofyn i chi gyflwyno rhagor o wybodaeth mewn perthynas â’ch taliad e.e. llenwi ffurflenni meddygol a chyflwyno gwybodaeth pasbort. Os na chaiff y wybodaeth hon ei chyflwyno’n brydlon, gall arwain at ganslo eich lle ar y cwrs / digwyddiad / trafnidiaeth. Ni roddir ad-daliadau ar gyfer canslo yn seiliedig ar beidio â chyflwyno gwybodaeth hanfodol.

Ffioedd Arholiad

  • Gwneir taliadau a cheisiadau i Addysg Gerdd Caerdydd a’r Fro ar ran y cyrff arholi (ABRSM, Trinity College London, RockSchool).
  • Nid yw Addysg Gerdd Caerdydd a’r Fro yn gyfrifol am unrhyw ad-daliadau ar gyfer ffioedd arholi.
  • Gall apwyntiadau arholi fod ar unrhyw adeg ar unrhyw un o’r dyddiadau dros dro a hysbysebwyd.
  • Gyda sesiynau arholi sydd wedi’u gordanysgrifio, gall apwyntiadau arholi fod ar ddyddiad na hysbysebwyd yn flaenorol.
  • Mae ad-daliadau rhannol neu gredydau ail-fynediad ar gael yn ôl disgresiwn y bwrdd arholi priodol yn unig os cyflwynir nodyn meddygol ar gyfer arholiad a fethwyd. Yn y rhan fwyaf o achosion, nid oes unrhyw amgylchiadau eraill a fydd yn arwain at ad-daliad.  Mae unrhyw ad-daliad / ad-daliad rhannol yn ôl disgresiwn y bwrdd arholi.

Benthyciad Offeryn

  • Mae pob disgybl sy’n mynychu ysgol a gynhelir gan yr ALl a/neu sy’n derbyn hyfforddiant yn gymwys i wneud cais am offeryn ar fenthyg, yn amodol ar argaeledd.
  • Gall benthyciad offeryn fod yn destun tâl tymhorol.
  • Caiff offerynnau eu benthyca i ddisgyblion am hyd at flwyddyn yn y lle cyntaf. Mae’r benthyciad offeryn yn amodol ar y disgybl yn gwneud cynnydd boddhaol yn ei astudiaethau cerdd a chymryd rhan lawn mewn gweithgareddau cerdd a drefnir gan yr ysgol a chan Addysg Gerdd Caerdydd a’r Fro.
  • Os yw’r disgybl yn rhoi’r gorau i wersi, rhaid dychwelyd yr offeryn i Diwtor Arbenigol Cerdd y disgybl neu i Addysg Gerdd Caerdydd a’r Fro ar unwaith.
  • Cyfrifoldeb y benthyciwr yw cynnal yr offeryn mewn cyflwr gweithio da trwy newid llinynnau, cyrs, sbringiau falf a rhannau eraill o offeryn y mae angen eu newid, a thrwy lanhau a chynnal a chadw arferol.
  • Mae’r benthyciwr yn gyfrifol am gadw’r offeryn yn ddiogel ac mae’n atebol pe bai’r offeryn yn mynd ar goll, neu am unrhyw ddifrod a achosir i’r offeryn, y cas neu ategolion, ac eithrio traul teg.  Nid yw’r offeryn wedi’i yswirio a chynghorir y benthyciwr i drefnu yswiriant ar gyfer pe bai’r offeryn yn mynd ar goll, neu unrhyw ddifrod iddo.
  • Mae Addysg Cerddoriaeth Caerdydd a’r Fro yn cadw’r hawl i gymryd offeryn ar fenthyg yn ôl ar unrhyw adeg.

Caniatâd rhieni ar gyfer digwyddiadau, cyngherddau ac ymweliadau rheolaidd gydag Addysg Cerdd CF

Caniatâd untro neu gyffredinol

  • Mae gan y Gwasanaeth Cerdd gyfres o gyngherddau a gweithgareddau wedi’u cynllunio ar gyfer blwyddyn academaidd 2024-2025. Gweler yr amserlen ymarfer / cyngherddau arfaethedig berthnasol ar gyfer eich ensemble am fanylion. Gall gweithgareddau newid drwy gydol y flwyddyn, ond cewch eich hysbysu am fanylion unrhyw newidiadau drwy e-bost. Pan yn defnyddio darparwr trydydd parti (e.e. perfformiadau Music for Youth), byddwn hefyd yn rhoi gwybod i rieni am y darparwr. Darperir lefel addas o oruchwyliaeth i bob plentyn wrth drefnu ein holl weithgareddau a chynhelir asesiadau risg trylwyr hefyd. Mae rhai staff ensemble hefyd wedi’u hyfforddi mewn cymorth cyntaf ac fel hebryngwyr. 
  • Pan fyddwch yn cofrestru eich plentyn mewn gweithgaredd ensemble ar y porthol, gofynnwn i chi gytuno ymlaen llaw i’ch plentyn gymryd rhan ym mhob ymweliad oddi ar y safle (cyngherddau, tripiau neu ddigwyddiadau / gweithgareddau eraill) ar ffurf caniatâd rhiant untro neu gyffredinol ar gyfer y flwyddyn academaidd ar gyfer plant o dan 18 oed. Ystyrir ymweliadau oddi ar y safle fel y lleoliadau hynny heblaw am y mannau ymarfer ensemble Addysg Cerdd CF wythnosol rheolaidd e.e. Canolfan Gelfyddydau Chapter, Ysgol Uwchradd yr Eglwys Newydd, Ysgol Gyfun Gymraeg Glantaf. Nid oes angen caniatâd ar gyfer ymarferion wythnosol yn lleoliadau Addysg Cerdd CF.

Enghreifftiau o Leoliadau Cyngerdd Oddi ar Safleoedd Addysg Cerdd CF:

Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, Neuadd Hoddinott y BBC, Canolfan yr Holl Genhedloedd, Canolfan Gelfyddydau Memo y Barri, Ysgol Uwchradd yr Eglwys yng Nghymru Esgob Llandaf, Eglwys Gadeiriol Llandaf, Eglwys Sant Edward, Y Rhath,Eglwys yr Holl Saint, Penarth, Eglwys Gadeiriol St Gwynllyw, Casnewydd, Y Senedd, Bae Caerdydd, Canolfan Mileniwm Cymru.

COD YMDDYGIAD AR GYFER HOLL AELODAU’R ENSEMBLE

Yn berthnasol i bob ymweliad ensemble

1. Rhaid i fyfyrwyr gofio eu bod yn cynrychioli’r Gwasanaeth Cerddoriaeth bob tro maen nhw mewn man cyhoeddus.  Rydym yn disgwyl iddynt fod yn ddymunol, yn dawel, yn gwrtais ac yn ystyriol o bobl eraill bob amser.  Rhaid i aelodau gofio y bydd eu hymddygiad yn adlewyrchu ar ddelwedd gyhoeddus y Gwasanaeth Cerdd.

2. Ni fydd aelodau yn cael gadael y grŵp ar eu pennau eu hunain ar unrhyw adeg.

3. Os cânt amser rhydd, rhaid iddynt bob amser ddychwelyd i’r man cyfarfod yn brydlon a chofrestru gyda’r arweinydd. Rhaid iddynt beidio â bod yn hwyr byth.

4. Rhaid i fyfyrwyr fod yn ymwybodol o draffig bob amser a bod yn arbennig o ofalus wrth groesi’r ffordd, yn enwedig pan fyddant mewn grŵp.

5. Rhaid i fyfyrwyr beidio byth â gollwng na gadael sbwriel. Dylid ei gadw nes iddynt ddod o hyd i fin.

6. Rhaid i fyfyrwyr beidio â chnoi gwm, ysmygu, yfed alcohol na chymryd sylweddau gwaharddedig.

7. Rhaid i fyfyrwyr bob amser eistedd ar fysiau a bysiau mini wrth deithio ac ni ddylent symud o’u seddi nes y bydd aelod o staff yn dweud wrthynt am wneud hynny a rhaid iddynt wisgo gwregysau diogelwch bob amser. Rhaid i fyfyrwyr ddilyn polisïau’r cwmni bysiau.

8. Mae myfyrwyr yn gyfrifol am eu heiddo eu hunain ar bob ymweliad a thaith a rhaid iddynt sicrhau bod eu heiddo wedi’i farcio’n briodol gyda’u henw/cod post.

9. Rhaid i fyfyrwyr bob amser ymateb i gyfarwyddiadau staff yn briodol a chadw at y rheolau a sefydlwyd ar gyfer teithiau penodol.

10. Nid cyfrifoldeb y Gwasanaeth Cerdd fydd pethau gwerthfawr.  Os bydd myfyrwyr yn dod â ffonau symudol, dim ond i ffonio adref y cant eu defnyddio a hynny gyda chaniatâd staff. 

11.  Rydym yn cadw’r hawl i dynnu’ch plentyn o gyngerdd, digwyddiad neu daith os yw ynghlwm wrth unrhyw dor-disgyblaeth ddifrifol ar unrhyw adeg cyn i’r daith ddechrau neu os yw wedi datblygu pryder iechyd difrifol. Sylwer efallai na fydd y taliad ar gyfer y daith yn cael ei ad-dalu mewn sefyllfaoedd o’r fath.

Trafodwch y cod ymddygiad a’r sancsiynau gyda’ch plentyn.

Gofynnwn i rieni ddarllen telerau’r caniatâd yn ofalus ar ein gwefan a chydnabod eich bod wedi derbyn a deall y wybodaeth a ddarperir yma.

  • Ar ôl darllen yr wybodaeth am yr ymweliad, ac ar ôl deall lefel yr oruchwyliaeth gaiff ei darparu, rwy’n cytuno i fy mhlentyn gymryd rhan yn yr ymweliad a’r gweithgareddau a ddisgrifiwyd.
  • Rwy’n deall y bydd pob gofal rhesymol yn cael ei roi i fy mhlentyn yn ystod yr ymweliad/gweithgaredd ac y bydd ef/hi dan ymrwymiad i gyflawni’r holl gyfarwyddiadau a roddir, a gwrando ar yr holl reolau a’r rheoliadau ynghylch yr ymweliad/gweithgaredd.
  • Rwy’n deall y cod ymddygiad ar gyfer yr ymweliad a’r sancsiynau y gellir eu defnyddio os bydd fy mhlentyn yn torri’r cod ymddygiad hwn. Rwyf wedi trafod y cod ymddygiad a’r sancsiynau â’m plentyn.
  • Rwy’n deall, os yw fy mhlentyn yn camymddwyn yn ddifrifol neu’n achosi perygl iddyn nhw eu hunain neu i eraill, efallai bydd gofyn i fi eu casglu neu efallai y bydd rhaid dod â nhw adref yn gynnar o’r ymweliad/gweithgaredd. Mewn sefyllfa o’r fath, ni fydd unrhyw rwymedigaeth ar yr ysgol/ganolfan i ad-dalu unrhyw arian.
  • Rwy’n cytuno y caiff fy mhlentyn dderbyn meddyginiaeth ac unrhyw driniaeth ddeintyddol, feddygol neu lawfeddygol mewn argyfwng, gan gynnwys anesthetig neu drallwysiad gwaed, mewn argyfwng pan na ellir cysylltu â’r rhieni, ac fel yr ystyrir yn angenrheidiol gan yr awdurdodau meddygol sy’n bresennol. 
  • Byddaf yn hysbysu’r sefydliad am unrhyw newidiadau i anableddau meddygol neu gorfforol neu gyflwr seicolegol fy mhlentyn (gan gynnwys unrhyw faterion lles emosiynol neu iechyd meddwl) a allai effeithio ar eu cyfranogiad yn yr ymweliad, ac unrhyw newidiadau i fanylion cyswllt brys.
  • Mae’r holl bobl ifanc yn dod o dan yswiriant atebolrwydd cyhoeddus trydydd parti’r Awdurdod Lleol, mewn perthynas ag unrhyw hawliad sy’n deillio o ddamwain a achosir gan ddiffyg yn safle / lleoliad neu offer neu y gellir ei phriodoli i esgeulustod gan y cyngor neu un o’i gyflogeion.  Sylwer nad yw’r polisi yswiriant hwn yn cynnwys yswiriant damwain bersonol nac eiddo personol ar gyfer eich plentyn.

Rwy’n deall hyd a chyfyngiadau’r yswiriant a ddarperir.

  • Rwy’n cytuno i dalu am unrhyw golled, difrod neu anaf, y gellir ei achosi i unrhyw berson neu eiddo dim ond trwy gamymddwyn neu ddiofal fy mab/merch.
  • Rwy’n deall y cynhelir ymweliadau o’r fath fel arfer o fewn oriau arferol yr ensemble, ond, os ydynt yn debygol o ymestyn y tu hwnt i hyn o bryd i’w gilydd, rhoddir digon o rybudd ymlaen llaw fel y gallaf wneud trefniadau priodol ar gyfer taith fy mhlentyn adref.
  • Rwy’n deall y gofynnir am fy nghaniatâd penodol ar gyfer unrhyw ymweliadau y tu hwnt i’r rhai a restrir yn y telerau ac amodau neu a allai gynnwys ymrwymiad i deithiau ac oriau hirach, mwy o dreuliau a thripiau dramor.
  • Rwy’n caniatáu i fy mhlentyn deithio ar unrhyw fath o drafnidiaeth gyhoeddus a/neu mewn cerbyd modur wedi’i yrru gan oedolyn o blith y grŵp, ar yr amod bod y cyfryw drefniant yn bodloni unrhyw ofyniad cyfreithiol.
  • Rwyf drwy hyn yn cytuno i fy mhlentyn gymryd rhan mewn ymweliadau rheolaidd y tu hwnt i safleoedd ymarfer wythnosol arferol Cerdd CF.