Rydym yn cynnig pecynnau addysg cerddoriaeth digidol i ysgolion.
Cwrs iPad a GarageBand
Rydym yn cynnig cyrsiau iPad a GarageBand i ddosbarth cyfan ar gyfer disgyblion ysgolion cynradd neu uwchradd. Mae’r cwrs wedi’i gynllunio i ddysgu disgyblion sut i greu, cyfansoddi, recordio a chynhyrchu cerddoriaeth ar iPad gan ddefnyddio GarageBand.
Gallwn deilwra’r cwrs i blant ysgol gynradd fel cyflwyniad i greu cerddoriaeth ddigidol.
Gallwn hefyd deilwra’r cwrs fel cwrs cymorth cynhyrchu cerddoriaeth a chyfansoddi mwy manwl ar gyfer y rhai mewn ysgolion uwchradd, a disgyblion TGAU a Safon Uwch.
Gallwch archebu’r cwrs fel:
- Gweithdy diwrnod llawn,
- Gweithdy hanner diwrnod,
- Cwrs 5 wythnos i ddechreuwyr (1 awr yr wythnos), neu
- Yn barhaus yn y tymor.
Mae’r cwrs hwn wedi bod yn hynod boblogaidd ymhlith staff a disgyblion.
Gwyliwch y fideo byr ar ein cwrs iPad a GarageBand.
Costau
Hyd y cwrs | Cost |
Gweithdy diwrnod llawn (5 awr) | £210 |
Gweithdy hanner diwrnod (2.5 awr) | £120 |
Cwrs wythnosol (1 awr yr wythnos) | £42 yr awr |
Cymorth TGAU, BTEC, a Safon Uwch
Rydym yn deall nad oes gan bob ysgol yr offer na’r adnoddau i recordio a ffilmio gwaith cwrs cyfansoddi a pherfformio disgyblion.
Gallwch archebu ein stiwdio amlgyfrwng yng Nghanolfan Gelfyddydau’r Chapter at y diben hwn.
Gallwn hefyd ymweld â’ch ysgol gan fod gennym nifer o athrawon technoleg cerddoriaeth arbenigol a all ddod i’ch helpu chi a’ch disgyblion yn yr ystafell ddosbarth.
Mae hyn yn costio £42 yr awr.
Hyfforddiant Staff Cerddoriaeth Ddigidol a TG
Rydym yn cynnig hyfforddiant cerddorol digidol a TG pwrpasol i athrawon a staff.
Gall hyn fod ar lefel ragarweiniol gan ddefnyddio iPad ac apiau cynhyrchu cerddoriaeth a fideo sylfaenol fel GarageBand ac iMovies. Gallai hyn hefyd fod yn edrych yn fanylach ar dechnoleg, recordio a chynhyrchu cerddoriaeth.
Cysylltwch â ni i drafod eich anghenion hyfforddi staff.
Ewch i’n tudalen Cysylltwch â Ni am ymholiadau.