Mae gennym gyflenwad o offerynnau sydd ar gael i’w benthyg neu eu llogi. Mae argaeledd yn dibynnu ar yr offeryn a ddewisir a’i boblogrwydd. Rhoddir blaenoriaeth i blant o deuluoedd incwm isel (a oedd gynt yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim) a’u dyrannu ar sail y cyntaf i’r felin.
Gwneud cais am fenthyciad offeryn. Dewiswch gofrestru ac yna benthyg offeryn.
Os byddwn yn derbyn eich cais, byddwn yn anfon e-bost atoch i ofyn i chi gasglu’r offeryn. Mae’n rhaid i chi lofnodi a chasglu’r offeryn o’n swyddfa yng Nghanolfan Gelfyddydau Chapter, Caerdydd.
Darllenwch ein telerau ac amodau llawn.
Gitârs a thelynau
Byddwch yn ymwybodol bod ein stoc o gitarau a thelynau i’w benthyg yn gyfyngedig iawn.
Pianos ac allweddellau
Mae gennym stoc fach o allweddellau ar gael, ond gall fod yn fwy darbodus prynu eich un eich hun gan eu bod yn eithaf rhesymol o ran pris ac yn aml ar gael mewn siopau ail law. Nid ydym yn gallu benthyg pianos. Gallwch ddysgu mwy am brynu eich offeryn eich hun drwy ein Cynllun Prynu Offeryn â Chymorth.