Mae cymaint o wahanol offerynnau ac arddulliau cerddoriaeth, gall fod yn anodd gwybod pa un i’w ddewis.
Dim ond o oedran penodol y mae rhai offerynnau’n addas oherwydd eu maint neu gymhlethdod. Mae offerynnau eraill yn rhoi sylfaen wych i’ch plentyn mewn sgiliau cerddorol a fydd yn cael eu trosglwyddo i offerynnau eraill. Gweld rhestr o oedrannau addas bras ar gyfer offerynnau . Cofiwch mai dim ond canllaw yw hwn.
Gallai’r offeryn y mae eich plentyn yn dechrau ei chwarae nawr ddod yn ddiddordeb neu yrfa gydol oes, felly mae’n werth treulio peth amser yn meddwl a siarad am ba un sy’n iawn iddyn nhw.
Os hoffech gael mwy o gyngor ar ba offeryn fyddai’n addas i’ch plentyn, cysylltwch â ni.